Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi rhybuddio bod Cymru wedi’i “llyfetheirio” ar drothwy cyflwyno pwerau newydd ar gyfer y dreth incwm.

Bydd modd i Lywodraeth Cymru rannu’r cyfrifoldeb dros y dreth o fis Ebrill 2019.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi gallu pennu trothwy newydd fel bod y lefel y mae pobol yn ei thalu yn ddibynnol ar gyflogau.

Ond mae Plaid Cymru’n rhybuddio na fydd gan Gymru’r un hawl i ehangu neu gwtogi’r dreth y tu hwnt i’r bandiau sydd eisoes yn bod, sy’n golygu na fydd modd gwneud mwy o arian drwy’r dreth incwm.

Ac maen nhw hefyd yn rhybuddio y bydd torri trethi’n costio llawer mwy i Gymru na’r Alban.

Mae Leanne Wood wedi galw am drafodaethau i ystyried ehangu a gwella’r pwerau newydd.

‘Cyfyngedig’

Mewn datganiad, dywedodd Leanne Wood nad yw “San Steffan yn gweithio i Gymru, felly rydym eisiau gwneud ein penderfyniadau ein hunain dros dreth incwm yma”.

Ychwanegodd: “Un ffordd o wneud hyn yw creu trothwyau newydd, sy’n galluogi llywodraethau i fod yn hyblyg.

“Ond mae’r pwerau sy’n cael eu trosglwyddo i Gymru yn gyfyngedig, ac nid oes modd i ni greu trothwyau newydd. Byddwn wedi ein clymu wrth drothwyau Llywodraeth y DG nad ydynt yn adlewyrchu anghenion Cymru.

“Mae unrhyw doriad treth yn ddrud ar wasanaethau cyhoeddus. A gall unrhyw godiad treth godi arian yn unig os yw’n cael ei gymhwyso i weithwyr ar gyflogau is.

“Mae hyn yn annheg, yn anhyblyg ac yn aneffeithiol, ac y mae’n golygu y gall trethdalwyr Cymru fod ar eu colled.

“Rwyf eisiau seinio rhybudd ar hyn fel y gall arweinwyr y pleidiau Cymreig godi llais. Mae angen i ni ofyn i Lywodraeth y DG am drafodaethau cyn gynted ag sydd modd, er mwyn edrych ar hyn eto.”