Mae Heddlu’r De wedi apelio am wybodaeth yn dilyn diflaniad dyn 24 oed o Bort Talbot.

Mae Kain Elliott o ardal Sandfields y dref yn 5’8″ ac mae ganddo fe wallt brown byr.

Mae ganddo fe datŵs ar ei wddf – un yn dwyn yr enw Kesia a’r llall yn benglog.

Pan gafodd ei weld ddiwethaf, roedd yn gwisgo top a siaced ddu, jeans glas ac esgidiau cuddliw, ac roedd yn cario bag Nike.

Mae ganddo fe gysylltiadau ag ardal Pont-y-pŵl ac mae’n defnyddio’r trên i fynd yno’n aml.

Mae’r heddlu’n gofidio am ei ddiogelwch oherwydd bod ganddo salwch iechyd meddwl.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ar 101.