Yn dilyn honiadau newydd bod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi camarwain y Cynulliad tros honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru, mae e wedi dweud ei fod yn “cadw at” yr hyn mae e wedi’i ddweud eisoes.

Daw ei sylwadau diweddaraf mewn cyfweliad â rhaglen Sunday Politics Wales y BBC, lle mae’n ymateb i honiadau’r cyn-weinidog Leighton Andrews ei fod e wedi camarwain y Cynulliad “sawl gwaith”.

Dywed ei bod yn “bwysig dros ben” fod y mater yn destun ymchwiliad annibynnol.

Honiadau yn 2014

Yn dilyn marwolaeth y cyn-Weinidog Cymunedau, Carl Sargeant fis diwethaf, roedd Leighton Andrews wedi crybwyll honiadau o fwlio oedd wedi codi yn 2014.

Mae Carwyn Jones wedi cyfeirio’r honiadau o gamarwain yn y dyddiau ers marwolaeth Carl Sargeant i ymchwiliad annibynnol.

Mewn e-bost at y Prif Weinidog, dywedodd Leighton Andrews ei fod yn credu i Carwyn Jones “gamarwain y Cynulliad Cenedlaethol sawl gwaith ers marwolaeth Carl Sargeant”.

Mae’n cyfeirio’n benodol at ddau ddyddiad – Tachwedd 21 a Rhagfyr 5 – yn ogystal â gohebiaeth o’r cyfnod hwn.

Ac fe ddywedodd yr Aelod Cynulliad Ceidwadol, Darren Millar ddydd Mercher fod Carl Sargeant wedi gofyn iddo holi’r Prif Weinidog yn 2014 i ddarganfod beth oedd e’n ei wybod am yr honiadau fod ei staff wedi’u cyhuddo o fwlio.

Ymateb

Wrth ymateb i honiadau Leighton Andrews, dywedodd Carwyn Jones wrth raglen Sunday Politics Wales: “Dw i’n cadw at yr atebion dw i wedi’u rhoi.

“Dw i ddim yn gwybod bellach beth yw’r cyhuddiadau – mae cynifer ohonyn nhw, maen nhw’n amrywio dros gyfnod o amser.

“Dw i’n credu ei bod yn bwysig dros ben i bawb fod hyn yn cael ei ddatrys yn y modd cywir, ac na ddylid ei ddatrys trwy’r cyfryngau ond yn hytrach fel rhan o ymchwiliad yr ymgynghorydd annibynnol.”