Mae pryderon am ddyfodol y wiwer goch ym Môn ar ôl i firws gyrraedd yr ynys.
Fe allai achosi i’r holl wiwerod farw o fewn misoedd, yn ôl arbenigwyr.
Y wiwer lwyd sydd fel arfer yn cludo brech y wiwer, ond fe all achosi i’r wiwer goch farw.
Mae tair wiwer wedi’u canfod yn farw eisoes ym Mangor ac mae pryderon bellach am yr 800 o wiwerod coch ym Môn.
Mae Ymddiriedolaeth y Wiwer Goch yng Nghymru yn apelio ar i’r cyhoedd roi gwybod os ydyn nhw’n canfod gwiwer goch wedi marw neu’n sâl.