Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am dywydd rhewllyd yn y gogledd a’r canolbarth heddiw.

Mae’r rhybuddion melyn ar gyfer siroedd Conwy, Dinbych, Y Fflint, Gwynedd, Powys a Wrecsam.

Rhybudd i “fod yn wyliadwrus” yw’r rhybudd melyn.

Mae disgwyl glaw yn ystod y dydd heddiw, ac i’r tymheredd ostwng yn is na’r rhewbwynt erbyn heno.