Mae pryderon ym Mhen-y-bont ar Ogwr y bydd y Cyngor Sir yn torri cludiant ysgol i blant ag anableddau mewn ymgais i arbed £13,000.

Bwriad y cyngor yw torri’n ôl ar nifer y tywyswyr fydd ar gael i fynd â’r plant i’r ysgol, ac mae rhieni ac ymgyrchwyr yn gofidio am y perygl y gallai hynny ei achosi, gan gynnwys mwy o wrthdrawiadau.

Yn ôl y cyngor, bydd tywyswyr yn cael eu tynnu oddi ar wasanaethau sy’n darparu ar gyfer llai nag wyth o blant.

Ond dim ond plant sy’n wynebu “risg isel” fydd yn cael eu heffeithio, meddai’r cyngor.

Dim gorfodaeth

Does dim gorfodaeth statudol ar gynghorau i ddarparu cludiant i fynd â phlant ag anableddau i’r ysgol os oes angen cymorth un-i-un arnyn nhw.

Mae rhai rhieni eisoes wedi tynnu eu plant allan o’r gwasanaeth cludiant ac wedi rhoi’r gorau i’w gwaith er mwyn mynd â’u plant i’r ysgol.

Mae disgwyl i’r cynlluniau fod yn destun ymgynghoriad cyn iddyn nhw gael eu cymeradwyo.