Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn annog rhieni plant dwy a thair oed yng Nghymru i fynd â’u plant i gael eu brechu rhag y ffliw y gaeaf hwn.

Mae pob plentyn a oedd yn ddwy neu’n dair oed ar 31 Awst 2017 yn gymwys i gael y brechlyn ffliw fel chwistrelliad i fyny’r trwyn, yn rhad ac am ddim, ym meddygfa eu meddyg teulu bob gaeaf.

Mae’r brechiad wedi cael ei gynnig i blant cymwys yn y dosbarth derbyn ac ym mlynyddoedd ysgol 1 i 4 yn yr ysgol gynradd. Rhaid i rieni roi eu caniatâd cyn i’w plentyn gael y brechlyn ffliw fel chwistrelliad i fyny’r trwyn yn yr ysgol.

“Rydyn ni’n gwybod bod germau’n cael eu trosglwyddo’n rheolaidd gan blant,” meddai Frank Atherton.

“Mae salwch fel y ffliw yn cael ei drosglwyddo’n hawdd o fewn y teulu, ac oherwydd natur meithrinfeydd, grwpiau chwarae a’r awyrgylch yn yr ysgol, mae plant bach a phlant hŷn yn dod i gysylltiad agos iawn â’i gilydd yn aml. Felly, mae plant yn arbennig o agored i ddal germau.

“Mae peryg i blant ifanc ddioddef cymhlethdodau difrifol os byddan nhw’n dal y ffliw. Nid yw systemau imiwnedd plant bach wedi datblygu’n llawn eto felly nid ydyn nhw’n gallu ymladd yn erbyn heintiau, fel y ffliw, cystal â phlant hŷn ac oedolion.

“Felly, rwy’n pwysleisio wrth rieni i sicrhau bod plant dwy a thair oed yn cael eu brechu rhag y ffliw,” meddai wedyn.

“Bydd hyn yn helpu i’w hamddiffyn rhag y ffliw ac yn golygu na fydd y ffliw yn cael ei drosglwyddo o un aelod y teulu i’r llall a rhwng ffrindiau yn y gymuned ehangach y gaeaf hwn.”