Mae Aelod Cynulliad UKIP tros Ganol De Cymru, Gareth Bennett wedi cael ei wahardd rhag siarad yn siambr y Senedd am wrthod ymddiheuro am sarhau pobol drawsryweddol.

Mewn trafodaeth ddoe, dywedodd fod rhoi rhagor o hawliau i grwpiau lleiafrifol yn y gymdeithas yn cael effaith negyddol ar hawliau’r mwyafrif.

Dywedodd fod angen cwtogi ar hawliau’r lleiafrif, ac yn benodol pobol drawsryweddol.

“All unrhyw gymdeithas ddim ond cymryd hyn a hyn o wyro cyn bod y gymdeithas honno’n ymffrwydro ac os gwnawn ni barhau ar y trywydd hwn o gymodi ag elfennau mwyaf gwallgo’r mudiad trawsryweddol, yna’r hyn fyddwn ni’n ei wynebu fel cymdeithas o fewn dim o dro yw ymffrwydro’n llwyr.”

Gwrthod ymddiheuro

Roedd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones wedi gofyn i Gareth Bennett ymddiheuro am y sylwadau.

Ond ar ôl gwrthod, fe gafodd ei wahardd rhag siarad, ac fe benderfynodd gerdded allan o’r Siambr. Roedd rhai o’i gyd-aelodau yn cymeradwyo wrth iddo godi o’i sedd a gadael.