Mae gwefan newyddion Wales Online wedi cyfiawnhau cyhoeddi erthygl gan newyddiadurwraig sy’n enedigol o India sy’n lladd ar Gymry Cymraeg.

Yn y darn sy’n dwyn y pennawd ‘This is what it’s like to feel excluded in Wales because of your language and colour’, mae Oruj Defoite yn dweud iddi symud i Ferthyr Tudful o ogledd India yn 1980 a’i chael hi’n anodd dysgu Saesneg, a hithau’n saith oed ar y pryd.

Ond wedyn, meddai, “unwaith roedden ni wedi concro’r Saesneg, roedd hi’n ymddangos fel pe bai’n rhaid i ni ddechrau dysgu Cymraeg… Doedd dim ond un wers bob wythos, os cofia i’n iawn… ond heb ffrindiau ysgol oedd yn siarad Cymraeg, fe wnaethon ni roi’r gorau iddi.”

Doedd hi ddim yn teimlo pwysau i siarad Cymraeg, meddai, “tan nawr”.

Ymddiheuriad…

Mewn erthygl ar wefan Wales Online heddiw, mae’r golygydd Paul Rowland wedi mynd ati i gyfiawnhau’r penderfyniad i gyhoeddi’r erthygl.

Mae’n tynnu sylw ar farn pobol fod y darn yn awgrymu bod Oruj Defoite yn teimlo fel pe bai hi “wedi’i neilltuo gan Gymry Cymraeg oherwydd lliw’r croen” a’r “ensyniad”, meddai, “fod y Cymry, ar y cyfan, a Chymry Cymraeg yn benodol, yn hiliol”.

Mae’n ymddiheuro am hynny, meddai, ac nad oedd “y dehongliad hwnnw wedi codi o gwbl pan ddarllenais i e”.

“Yr hyn nad ydw i o gwbl yw gelyn neu wrthwynebydd i’r iaith Gymraeg,” meddai wedyn.

…ond cyfiawnhad

Ar ôl ymddiheuro, mae Paul Rowland yn cyfiawnhau pam fod y darn wedi “apelio” ato, a’i fod wedi’i ysgrifennu “o bersbectif ro’n i’n ymwybodol nad o’n i wedi darllen llawer yn ei gylch: profiad person o liw, a menyw yn benodol, mewn rhan o Gymru sydd ag un o’r lefelau isaf o fewnfudwyr yn y wlad.”

Eglura fod y darn yn “gofnod personol iawn o deimlo neilltuaeth mewn dau gapasiti gwahanol a gafodd eu dwysáu ym meddwl yr awdur”.

“Do’n i ddim yn ei weld yn gyhuddiad o hiliaeth yn erbyn yr unigolion roedd hi’n cofnodi eu hanesion, ac yn llai fyth y genedl gyfan.

“Yn fy meddwl i, ynghyd â’r trafodaethau cefndirol a ddaeth cyn hynny, roedd hi’n stori am y teimlad nad ydych chi cweit yn perthyn.”

“Dadleuol”

Mae Paul Rowland yn dweud ei fod yn sylweddoli y byddai’r darn yn un “dadleuol”, ond yn dweud hefyd na fyddai wedi ei gyhoeddi “pe bawn i wedi ei ddarllen fel gronyn o hiliaeth yn erbyn Cymry Cymraeg ym mhob man”.

Ond mae’n dweud ei fod “yn caru, yn cefnogi ac yn trysori’r iaith Gymraeg”, ac yntau’n hanu o Aberystwyth ac wedi’i addysgu mewn ysgol lle’r oedd canran uchel o Gymry Cymraeg.

Mae’n gweld gwerth mewn gwario arian ar yr iaith ac yn gweld manteision o fod yn ddwyieithog, meddai wedyn.

“Gobeithio bod [y darnau sydd wedi’u cyhoeddi] yn profi nad yw Wales Online yn wrth-Gymraeg.

“Dyw ei gyhoeddi [darn Oruj Defoite] ar Wales Online ddim yn dweud mwy am ein hagenda olygyddol na gwahoddiadau’r BBC i Nigel Farage ymddangos ar eu rhaglenni ar, dyweder, barn y sefydliad hwnnw am Brexit.”

Methu ymdopi

Yn ei darn hi, mae Oruj Defoite yn dweud ei bod bellach yn teimlo ei bod “yn hanfodol siarad Cymraeg, neu o leiaf gallu ymdopi” â’r iaith yng Nghymru.

“Dw i’n cael fy holi am fy sgiliau iaith drwy’r amser,” meddai. “Pan dw i’n ateb yn negyddol, dw i’n cael gwên lawn piti yn ôl neu’n waeth fyth, ryw fath o wg fel honno gewch chi gan athro siomedig.

“Dw i’n cael fy marnu i fod yn llai cymwys i’m galw fy hun yn Gymraes am fethu â siarad yr iaith.”

Ond wedyn, mae’n mynd ymlaen i awgrymu bod a wnelo lliw ei chroen â diffyg pobol i’w derbyn fel Cymraes.

“Nid yn unig bod y ffaith fod lliw fy nghroen yn fwy tywyll yn gwneud fy Nghymreictod yn llai dilys, ond mae’r rhwystr ieithyddol yn fy neilltuo ddwywaith cymaint.”

Pwysau i siarad Cymraeg

Mae hi’n mynd ymlaen i ofyn o le mae’r pwysau i ddysgu Cymraeg wedi dod, cyn tynnu sylw at darged miliwn o siaradwyr Llywodraeth Cymru erbyn 2050.

Wrth egluro ei bod hi’n “falch” fod yr iaith yn tyfu, mae hi’n dweud, i’r gwrthwyneb, mai’r hyn sy’n digwydd wrth dyfu’r iaith yw “neilltuo”.

Serch hynny, mae hi’n egluro ei bod hi wedi dioddef llai o hiliaeth yng Nghymru nag yn Lloegr.