Mae’r ganran o bobol sydd yn ddi-waith yng Nghymru wedi codi’n uwch na’r cyfartaledd trwy wledydd Prydain, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Rhwng mis Awst a Hydref, roedd 4.7% o boblogaeth Cymru yn ddi-waith, o gymharu â chyfartaledd y Deyrnas Unedig sef 4.3%.

Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau yn dangos yr oedd 71,000 o bobol yn ddi-waith yng Nghymru yn ystod y cyfnod yma, sydd yn gynnydd o 6,000 o gymharu â’r cyfnod rhwng mis Mai a Gorffennaf.

Cymru sydd wedi profi’r cynnydd uchaf mewn diweithdra (+ 0.4%), ac o gymharu â blwyddyn yn ôl, Cymru yw’r unig ran o’r Deyrnas Unedig lle mae’r gyfradd wedi cynyddu.

Tros Brydain oll mae’r gyfradd diweithdra ar ei lefel isaf ers 1975.