Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yng Ngheredigion, wedi galw ar Gyngor Ceredigion i “ddilyn esiampl” Cyngor Môn a chymryd camau i weithredu’n fewnol yn y Gymraeg.

Yn ôl Talat Chaudhri, cafodd datganiad ei arwyddo yn 2011 gan arweinydd presennol y Cyngor, Ellen ap Gwynn, yn nodi y byddan nhw’n symud i wneud y Gymraeg yn brif iaith gwaith yno.

Ond dros y blynyddoedd diwethaf, meddai’r cadeirydd, “does dim cyhoeddiad o fwriad pendant i weinyddu’n Gymraeg wedi dod”.

“Mae cyfle i Gyngor Ceredigion ddilyn esiampl Cyngor Môn [trwy] gyhoeddi cynllun ac amserlen gweithredu er mwyn symud i weinyddu’n Gymraeg,” meddai Talat Chaudhri.

Gweinyddu

Fe fydd Cyngor Môn yn bwrw ymlaen â’u cynlluniau tros weinyddu yn Gymraeg, yn dilyn pleidlais yn erbyn gwelliant arfaethedig prynhawn ddoe (Rhagfyr 12).

Mae Cyngor Gwynedd eisoes yn gweithredu’n fewnol yn y Gymraeg.