Mae Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford, dan y lach ar ôl dweud na fyddai Sais yn cael ei benodi’n rheolwr nesaf y tîm cenedlaethol.

Mae’r Gymdeithas yn chwilio am olynydd i Chris Coleman, sydd wedi’i benodi ers rhai wythnosau’n rheolwr ar Sunderland yn y Bencampwriaeth.

Mae lle i gredu bod Ryan Giggs, Osian Roberts a Tony Pulis ymhlith y ceffylau blaen ar gyfer y swydd, ond mae rhai enwau eraill, gan gynnwys Thierry Henry o Ffrainc hefyd yn cael eu hystyried.

Ond wrth drafod y swydd yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Jonathan Ford: “Mae’n well gennym bobol o Gymru erioed oherwydd mae’n bosib dadlau bod yr angerdd yno.

“Dywedodd rhywun hyn yn gynharach, Cymro yn sicr, tramorwr o bosib, ond yn bendant dim Sais.”

Ymchwiliad

Mae cyngor Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi penderfynu yn dilyn cyfarfod y dylid ymchwilio i’r sylwadau.

Mae panel disgyblu wedi cael ei sefydlu.

Mae rhai aelodau’r cyngor yn credu y gallai pobol ar y tu allan ystyried ei sylwadau i fod yn rhai hiliol, ac mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n cefnogi ymgyrch i gael gwared ar hiliaeth yn y byd pêl-droed.