Mae Heddlu De Cymru wedi rhyddhau apêl o’r newydd am dystion i farwolaeth dyn o Rondda Cynon Taf.

 

Mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod yn trin marwolaeth Jamie Perkins o Donyrefail fel achos o lofruddiaeth.

 

Mae’r elusen Taclo’r Taclau yn cynnig gwobr o £10,000 am wybodaeth ynglŷn â’i lofruddiaeth.

 

Mae’n ddeufis heddiw ers i’r dyn 41 oed gael ei weld diwethaf yn ardal Gilfach Goch, Rhondda Cynon Taf ar Hydref 12.

 

Cafodd ei gorff ei ganfod ar Dachwedd 1 mewn ardal sy’n cael ei hadnabod yn ‘Bog lane’ yn Gilfach Goch.

 

Mae’r Ditectif Prif Arolygydd Gareth Morgan wedi cadarnhau bod yr ymchwiliad yn parhau a’i fod yn apelio am dystion i’r achos.