Mae disgwyl i Gyngor Sir Ynys Môn drafod dyfodol eu polisi iaith heddiw wrth i ffrae gorddi am y bwriad i weinyddu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ddiwedd mis Tachwedd daeth y newyddion fod y Cyngor yn bwriadu efelychu gweinyddiaeth Cyngor Gwynedd gan weithio’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond mae un cynghorydd annibynnol wedi beirniadu hyn, ac mae’n cyflwyno cynnig gerbron y Cabinet heddiw yn galw am refferendwm i’r newid polisi.

Cynnig am refferendwm i’r newid

Yn ôl Shaun J Redmond, does gan y Cyngor Sir ddim “mandad” i weithredu’n fewnol yn y Gymraeg yn unig ac mae’n galw am “gadw’r amgylchedd gwaith a’r polisi dwyieithog tan y bydd mandad a chonsensws yn cael ei gytuno drwy refferendwm ymysg yr etholaeth.”

Mae hefyd yn beirniadu’r polisi o fod yn “faich ariannol” i’r Cyngor ac yn galw am “gyflogi’r ymgeiswyr mwyaf cymwys ar gyfer pob swydd o fewn y Cyngor beth bynnag eu hiaith gyntaf neu ddewis iaith o Gymraeg neu Saesneg”.

‘Testun siom’

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at gynghorwyr Ynys Môn yn galw arnyn nhw i wrthwynebu’r cynnig.

“Mae’n destun siom bod cynnig hynod niweidiol y Cynghorydd Redmond yn camddeall y polisi blaengar [y Cyngor] – boed yn fwriadol neu’n anfwriadol – polisi a fyddai’n gam pwysig ymlaen i Gymru a’r iaith Gymraeg,” meddai Menna Machreth ar ran y gymdeithas.

“Mae sôn am gamau cadarnhaol i sicrhau fod priod iaith Cymru fel ‘baich’ yn sarhaus, yn boenus ac yn ein diraddio ni fel pobol,” meddai.

“Ni chredwn fod tystiolaeth i’r honiad y byddai gweinyddu’n fewnol yn ddrutach i’r Cyngor.”