Mae rhew ar y ffyrdd yn parhau i achosi trafferthion i deithwyr y bore ma tra bod mwy na 300 o ysgolion yng Nghymru yn parhau ar gau am ail ddiwrnod.

Roedd y tymheredd wedi gostwng i -12C mewn rhai llefydd dros nos, a chafodd tymheredd o -13C (8.6F) ei gofnodi yn Sir Amwythig – y noson oeraf yng ngwledydd Prydain eleni.

Mae rhybudd melyn yn parhau mewn grym tan 11yb bore dydd Mawrth.

Mae 321 o ysgolion hyd yn hyn wedi dweud y byddan nhw’n cau am ail ddiwrnod – y rhan fwyaf ohonyn nhw ym Mhowys a Sir Ddinbych.

Roedd bron i 600 o ysgolion ar gau ddydd Llun oherwydd eira trwm mewn rhannau o’r wlad.