Erbyn mis Rhagfyr y flwyddyn nesaf mae criw o ymgyrchwyr yn gobeithio y bydd ail gofeb yn ei lle yng Nghilmeri.
A heddiw’n ddiwrnod cofio Llywelyn Ein Llyw Olaf, gafodd ei ladd ar 11 Rhagfyr 1282, mae angen cofio’r milwyr eraill hefyd, yn ôl Geraint Roberts un o drefnwyr y rali flynyddol yng Nghilmeri.
“Y neges, fel wastad, yw bod y digwyddiad yn gyfle inni gofio am Llywelyn ein Llyw Olaf a hefyd y tua 3,000 o filwyr eraill gafodd eu lladd,” meddai Geraint Roberts o Ystradgynlais wrth golwg360.
“Ni’n gobeithio erbyn y flwyddyn nesaf i gael cofeb deilwng iddyn nhw,” meddai gan gyfeirio at y milwyr.
“Nid yno i gofio’r Tywysog yn unig oeddem ni, oherwydd rydyn ni’n gweld Llywelyn Ein Llyw Olaf fel symbol o’r ewyllys sydd gennym i weld Cymru well, ac i weld Cymru Rydd,” meddai.
‘Tywydd gaeafol’
Mae’n cydnabod fod “llai nag arfer” wedi ymuno yn y rali ddydd Sadwrn (Rhagfyr 9), ond mae’n dweud y gallai’r tywydd gaeafol fod wedi effeithio ar drefniadau teithio.
Yn rhan o’r digwyddiad bu gwasanaeth coffa yn Eglwys Llanynys, gorymdaith at y garreg goffa, areithiau ynghyd â noson lawen yn Llanwrtyd y noson honno.