Mae tri o wleidyddion amlycaf Ynys Môn wedi rhyddhau datganiad ar y cyd heddiw yn cadarnhau eu safbwynt “unedig” o ran atomfa Wylfa Newydd a chynllun pŵer y Grid Cenedlaethol.

Mae’r tri wedi cadarnhau eu bod yn cefnogi cynllun i danddaearu’r trydan rhwng yr atomfa a’r tir mawr yn hytrach na chodi peilonau ar yr ynys.

Ac o ran yr atomfa maen nhw’n nodi eu bod am weithio i sicrhau swyddi, addysg a hyfforddiant i bobol leol ynghyd â busnesau lleol.

“Fel gwleidyddion sydd wedi ein hethol i gynrychioli pobol a busnesau lleol, mae gennym ymagwedd unedig tuag at y ddau brosiect yma,” meddai Llinos Medi, Arweinydd y Cyngor; Rhun ap Iorwerth AC ac Albert Owen AS.

‘Elwa’r cymunedau’

Mae’r tri’n ychwanegu eu bod am sicrhau bod y Cyngor Sir yn rhan o’r trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain am becyn budd cymunedol sy’n “gyfwerth i rai Lloegr.”

“Byddai’r taliad ychwanegol yma ar wahân i unrhyw oblygiadau cynllunio a chyfraniadau gwirfoddol gan y datblygwr ac yn daladwy, unwaith y bydd Wylfa Newydd yn weithredol, er lles yr Ynys,” meddai’r datganiad.

“Rydym yn benderfynol y dylai’r holl arian elwa’r cymunedau a effeithir arnynt gan yr orsaf bŵer hon yn unol â’r bwriad gan y byddant yn teimlo effeithiau’r prosiect dros oes y cynllun.”

Tanddaearu

Maen nhw’n galw ar y Grid Cenedlaethol i gydweithio â Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a Horizon i ymgorffori ceblau pŵer yn rhan o gynllun i adeiladu pont newydd dros Y Fenai.

Byddai hyn, meddai’r tri, yn rhatach na’r twnnel sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd ac yn golygu y gallai cyllid sydd wedi’i glustnodi gan y Grid ar gyfer y prosiect fynd at y gost o ariannu trydedd bont fyddai “o fudd sylweddol i economi gogledd Cymru”.