Mae perchennog Pier Llandudno yn rhybuddio y gallai’r cynllun i ddatblygu fflatiau ar hen safle’r Pafiliwn effeithio ar ddyfodol y pier ei hun.
Mae Adam Williams, perchennog y pier, yn dweud na all barhau i fuddsoddi yn y pier tra bod “bygythiad o’r datblygiad preswyl dadleuol yn parhau dros yr atyniad hanesyddol i ymwelwyr.”
Mae’r datblygwr Alan Waldron yn gobeithio datblygu tua 49 o fflatiau, gofod llawr masnachol a lle parcio ar hen safle’r Pafiliwn yn Llandudno.
Mae disgwyl i bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Conwy drafod y cais ddydd Mercher (Rhagfyr 13).
‘Ansicrwydd’
Yn y cyfamser mae perchennog y pier yn mynegi pryder am ddyfodol swyddi ynghlwm â’r pier gan gynnwys y cabanau gan ddweud y gallai cwynion gan breswylwyr y fflatiau orfodi iddyn nhw gau.
“Gyda chymaint o ansicrwydd, ni allwn barhau i gynnal ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer y pier,” meddai Adam Williams.
Mae’n ychwanegu fod angen gwario o leiaf £150,000 ar waith atgyweirio ond mi fydd datblygiad y fflatiau yn “achosi anhrefn yn yr ardal leol gydag effaith anorfod ar niferoedd yr ymwelwyr a’r incwm,” meddai.
Mi brynodd Adam Williams y pier yn 2015 am £4.5m ac mae’n dweud ei fod wedi buddsoddi tua £1m yn y safle ers hynny gyda llawer o waith wedi’i wneud ar seiliau’r pier.