Mae tri pherson wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â digwyddiad ar Stryd y Bont, Caerfyrddin ar brynhawn ddydd Gwener (Rhagfyr 8).

 

Mae dyn, 44, wedi cael ei gyhuddo o feddu ar arf ac mi fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli ar Ragfyr 11.

 

Mae dyn, 50, wedi ei gyhuddo o gyflawni ymosodiad cyffredin, tra bod dynes, 43, wedi’i chyhuddo o gyflawni ymosodiad.

 

Mae’r ddau wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth ac mi fyddan nhw’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli ar Ragfyr 28.