Byddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn agor swyddfa Banc Lloegr yng Nghaerdydd pe baen nhw’n dod i rym ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae eu cynlluniau hefyd yn cynnwys sefydlu Banc Buddsoddi Cenedlaethol yn Birmingham, yn ogystal ag agor swyddfeydd Banc Lloegr yn Glasgow, Belfast, Newcastle a Plymouth er mwyn gwella’r cyfleoedd i fuddsoddi.

Daw’r argymhelliad i agor swyddfeydd Banc Lloegr mewn nifer o ddinasoedd mewn adroddiad newydd.

Dywedodd Canghellor yr wrthblaid, John McDonnell: “Mae’r adroddiad pwysig hwn yn ategu’r neges nad yw ein system ariannol yn cynnig digon o fuddsoddiad drwy’r wlad gyfan, nac yn y diwydiannau a chwmnïau’r dyfodol lle mae ei angen fwyaf.”

Anghydraddoldeb daearyddol

Dywedodd awdur yr adroddiad, yr economegydd Graham Turne fod angen gwneud mwy i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb daearyddol y byd ariannol.

“Fel banc canolog wrth galon system ariannol y DU, mae angen i Fanc Lloegr fod yn chwarae rhan weithgar a blaenllaw, gan sicrhau bod banciau’n helpu cwmnïau’r DU i arloesi.”

Ychwanegodd fod “nifer anghymesur” o gwmnïau technoleg wedi’u lleoli yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr.