Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi rhybuddio bod perygl y gallai Cymru gael ei gadael ar ôl o safbwynt recriwtio a hyfforddi meddygon.

Daw ei sylwadau yn dilyn astudiaeth yr OECD (y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd) sy’n cymharu nifer y meddygon sy’n gweithio ym mhob gwlad.

Methiant Llafur i hyfforddi a recriwtio digon o feddygon yw’r drwg, yn ôl Plaid Cymru, sy’n galw ers tro am recriwtio hyd at 1,000 o feddygon newydd yng Nghymru.

Mae 2.8 o feddygon ar gyfer pob 1,000 o bobol yng ngwledydd Prydain – cyfartaledd yr OECD yw 3.4 o feddygon.

Mae gwledydd bychain fel Estonia (3.4) a Latfia (3.2) ar y blaen i wledydd Prydain.

Er nad oes gan yr OECD ffigwr ar gyfer Cymru, mae amcangyfrifon ar sail ffigurau Prydain yn awgrymu mai 2.75 yw cyfartaledd Cymru – sy’n golygu y byddai angen tua 2,000 o feddygon er mwyn cyrraedd cyfartaledd y DU.

Trafferthion

Yn ôl Plaid Cymru, gall niferoedd isel o feddygon arwain at broblemau ehangach, gan gynnwys amseroedd aros hir a thorri gwasanaethau yng nghefn gwlad.

Ac mae Rhun ap Iorwerth wedi tynnu sylw unwaith eto at benderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod sefydlu ysgol feddygol newydd ym Mangor.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Eto fyth, dyma ni’n cael ein hatgoffa ein bod ar ôl cenhedloedd eraill Ewrop pan ddaw’n fater o’n gweithlu meddygol.

“Gyda Brexit, blinder ac ymddeoliadau yn peryglu hyd yn oed y gweithlu sydd gennym ar hyn o bryd, mae’n hollol amlwg fod arnom angen cynllun i hyfforddi a recriwtio meddygon cynhenid.

“Rhaid i gynllun o’r fath gynnwys datblygu hyfforddiant meddygol ym Mangor, ac y mae’r llywodraeth Lafur yn wrthwynebus i hyn.

“Os na fyddwn yn hyfforddi mwy o feddygon,  yna bydd y staff presennol sydd gennym yn y GIG (Gwasanaeth Iechyd) yn parhau i gael eu hymestyn i’r eithaf, yn enwedig oherwydd bod llawer o’n meddygon yn nesáu at oedran ymddeol, a bod llawer o staff y GIG yn bwriadu gadael y proffesiwn oherwydd yr amodau gwaith anodd.

“Bydd Cymru’n parhau i aros ar waelodion y tablau cynghrair. Ai dyna’n wir sut y mae Llafur eisiau gweld gallu ein GIG at y dyfodol? Yn hytrach, gadewch i ni feddu ar yr uchelgais i fod fel Awstria, Norwy a Denmarc.”