Mae Jack Sargeant wedi dweud ei fod e “eisiau gwneud gwahaniaeth” wrth gyhoeddi ei gais ar gyfer yr ymgeisyddiaeth i olynu ei dad, yr Aelod Cynulliad tros Alun a Glannau Dyfrdwy, Carl Sargeant.
Bu farw cyn-Ysgrifennydd Cymunedau Llywodraeth Cymru ychydig ddiwrnodau ar ôl cael ei ddiswyddo o Gabinet Llywodraeth Cymru yn dilyn honiadau o gamymddwyn rhywiol.
Bydd is-etholiad ar Chwefror 6, ac fe ddywedodd Jack Sargeant ei fod e’n “sefyll i fod yn bencampwr i’n cymuned leol”.
Wrth gyfeirio at y gefnogaeth gafodd e a’i deulu yn dilyn marwolaeth ei dad, dywedodd: “Maen nhw wedi sefyll efo fy nheulu mewn cyfnod anodd a dw i am eu talu nhw’n ôl am eu cefnogaeth ac adeiladu ar waith caled fy nhad.
“Boi lleol o Gei Connah oedd fy nhad a wnaeth o fyth golli ei wreiddiau. Dyna pam fod pobol Alun a Glannau Dyfrdwy’n ei garu o a pham ein bod ni’n ei garu o.
“Ces i fy magu yn gwybod cymaint roedd o’n feddwl o’i gartre’ a’r bobol sy’n byw yma, a dw i eisiau mynd â’i waddol ymlaen – a pharhau i weithredu ar y pethau oedd yn bwysig iddo fo.
“Ces i fy magu yma, es i i’r ysgol yma, ces i fy mhrentisiaeth beirianneg yma yn ein coleg lleol ac yna es i i’r brifysgol leol i lawr y lôn yn Wrecsam.
“Wnes i fyth ddychmygu y byddwn i’n mentro i fywyd cyhoeddus. Wnes i astudio peirianneg, ddim y gyfraith na gwleidyddiaeth ond dw i’n meddwl y galla i ddod â phrofiad go iawn o’r byd efo fi i’r Cynulliad Cenedlaethol – a dw i’n credu bod angen hynny ar y Cynulliad.”
‘Gwahaniaeth’
Ychwanegodd Jack Sargeant: “Dw i eisiau gwneud gwahaniaeth fel fy nhad, boed hynny’n ceisio cael cartrefi gwell i bobol, amddiffyn ein hamgylchedd drwy weithredu ar gynlluniau ailgylchu drwy Gymru a chefnogi swyddi gwyrdd, neu sefyll i fyny dros ferched oedd wedi dioddef trais yn y cartref, gan chwarae ei ran wrth gyflwyno deddfwriaeth newydd yn y Cynulliad i’w hamddiffyn nhw.
“Dw i’n aelod Llafur ffyddlon, yn falch o fod yn aelod Llafur. Roedd yn fraint cyfarfod efo arweinydd Llafur Jeremy Corbyn pan ddaeth o angladd ‘nhad yr wythnos ddiwetha’.
“Ond mi fydda i’n fi fy hun. Mae gen i fy egwyddorion a gwerthoedd fy hun. Gwerthoedd Llafur ydyn nhw, gan sefyll i fyny dros bobol gyffredin sy’n gweithio’n galed.”
Ymhlith ei flaenoriaethau mae:
- creu swyddi
- creu prentisiaethau i bobol ifanc leol
- buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus
Pwy yw Jack Sargeant?
Mae Jack Sargeant yn 23 oed ac fe aeth i Ysgol Bryn Deva ac Ysgol Uwchradd Cei Connah.
O’r fan honno, aeth ymlaen i gwblhau prentisiaeth mewn peirianneg yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy gan weithio gyda busnesau lleol.
Graddiodd wedyn o Brifysgol Glyndwr yn Wrecsam.
Fel ei dad, mae’n gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Newcastle ac yn hoffi cerddoriaeth a theithio.