Mae mwy o fenywod wedi cael eu lladd gan ddynion yn ardal Heddlu De Cymru na bron unrhyw ardal arall yng ngwledydd Prydain.

Cafodd wyth dynes eu lladd gan ddynion yn ardal y llu rhwng Ionawr 1 a Rhagfyr 31, 2016. Dim ond Heddlu Metropolitan welodd fwy o farwolaethau (12).

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon cafodd 113 dynes eu lladd gan ddynion y llynedd. Roedd 12% ohonyn nhw yng Nghymru.

Mae’n debyg y cafodd dau draean o’r menywod eu lladd gan gyn-bartner.

‘Rhaid herio’

“Mae’n rhaid i gamdrinwyr wynebu sancsiynau gwydn sy’n eu herio ac yn eu dal yn atebol am eu hymddygiad,” meddai Prif Weithredwr Cymorth i Ferched Cymru, Eleri Butler.

“Mae’n rhaid i bethau newid os ydyn wir yn ddifrifol ynglŷn â sicrhau bod dim un ddynes neu ferch yn cael eu lladd oherwydd eu bod yn fenywod a merched.”

“Rhaid sicrhau bod pawb yng Nghymru yn medru byw bywyd heb drais a chamdriniaeth.”