Dyw’r fenter newydd sy’n gyfrifol am un o ladd-dai pwysica’ Cymru ddim wedi rhoi addewid un ffordd na’r llall ynglŷn â dyfodol swyddi.
Ond mae cwmni Dunbia – sydd bellach dan adain y cwmni Gwyddelig Dawn Meats – yn dweud mai’r bwriad yw cynyddu’r busnes ar draws y Deyrnas Unedig.
“Busnes fel arfer yw hi,” meddai llefarydd ar ran y fenter newydd sydd bellach yn gyfrifol am ladd-dy mawr Llanybydder a chanolfannau pacio cig yn Felin-fach, Ceredigion, a Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin.
Swyddi – ‘busnes yn ôl yr arfer’
Pan dynnodd golwg360 sylw ynghynt eleni at y trafodaethau rhwng Dunbia a Dawn Meats, fe fu gwleidyddion lleol yn mynegi pryder am sicrwydd swyddi, yn enwedig ynglŷn â’r ddau safle pacio.
Mae llefarydd ar ran Dunbia wedi cadarnhau wrth golwg360 fod y busnes yn mynd yn ei flaen “yn ôl yr arfer ar hyn o bryd.”
Dim ond ym mis Medi y cafodd y ddau gwmni ganiatâd yr awdurdodau i uno a sefydlu’r fenter newydd, meddai, felly does dim newidiadau eto.
“Mae gan gwmni unedig newydd Dunbia uchelgais fawr i gynyddu’r busnes yn y Deyrnas Unedig, a byddwn yn sicrhau ein bod yn cynnal y gallu cywir yng Nghymru i gefnogi’r twf hwn orau gallwn ni.”
Cymeradwyo’r fenter
Dim ond nawr y mae ffermwyr lleol yn sylwi ar y newid wrth i ohebiaeth gyrraedd gyda logo’r fenter newydd sy’n dweud yn glir bod Dunbia bellach yn rhan o Dawn Meats.
Prif Weithredwr y fenter yw Jim Dobson, cyn-bennaeth Dunbia, ac mae Niall Browne, Prif Weithredwr Dawn Meats bellach yn Gadeirydd Gweithredol.
Yn Iwerddon, fe fydd Dawn Meats yn cynnal busnes Dunbia ar wahân, ond ar y cyd fe fydd y cwmnïau’n prosesu tua 900,000 o wartheg a 2.6 miliwn o ddefaid y flwyddyn yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
Cwmnïau teulu yw’r ddau fusnes – fe ddechreuodd Dunbia yng Ngogledd Iwerddon yn 1976 gydag un siop gigydd fechan o dan yr enw Dungannon Meats.
.