Mae’r Bathdy Brenhinol wedi prynu swllt brin gyda phen Harri VII arni am £52,800.

Mae’r darn yn dyddio o 1502 ac yn arddangos portread clir o’r brenin Tuduraidd a anwyd yng Nghastell Penfro. Roedd yn rhan o arwerthiant darnau a phapurau arian yn Morton & Eden yn Llundain yr wythnos hon.

Cyn dod i ddwylo’r Bathdy yn Llantrisant, roedd wedi bod yn rhan o gasgliad Dr John Sharp, un o gasglwyr mawr y 17eg ganrif ac Archesgob Caerefrog rhwng 1691 ac 1714.

Fe anwyd Harri VII yng Nghastell Penfro ar Ionawr 28, 1457. Ei fam oedd Margaret Beaufort, ac roedd ei dad, Edmwnd Tudur, wedi marw dri mis cyn ei eni. Y gred ydi iddo gael ei fedyddio’n ‘Owain’, a bod ei fam yn grediniol y byddai’n dod yn ‘Fab Darogan’.

Taid Harri ar ochr ei dad oedd Owen Tudur o Benmynydd, Môn, a oedd wedi bod yn aelod o lys Harri V.

Bu farw Harri VII o’r diciàu ar Ebrill 21, 1509. Mae wedi’i gladdu gyda’i wraig, Elizabeth, yn Abaty Westminster, Llundain, yn y capel a gomisiynwyd ganddo.