Mae dyn wedi ei arestio yng Nghaergybi yn rhan o ymgyrch i fynd i’r afael â chyffuriau yng ngogledd Cymru.
Roedd y dyn, sydd yn ei dridegau, wedi cael ei arestio mewn eiddo ar Heol Holborn lle ddaeth swyddogion o hyd i offer cyffuriau.
Mae heddlu yn amau eu bod hefyd wedi dod o hyd i gyffuriau dosbarth B yno. Mae’r dyn yn parhau yn y ddalfa ac yn aros i gael ei gyfweld.
“Dyma ran o’n gwaith â chymunedau lleol fel ymateb i bryderon yn gysylltiedig â defnydd cyffuriau,” meddai’r Arolygydd Sara Evans.
“Mae ein hymrwymiad i gadw cymunedau yn ddiogel yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Bydd ein nod o dargedu’r lleiafrif sydd yn achosi’r rhan fwyaf o’r niwed, yn parhau.”