Mae pryder y gallai gwasanaeth sydd wedi helpu pobol â nam gweld neu glywed ddod i ben ddiwedd y mis.

Ers ei sefydlu tair blynedd yn ôl, mae gwasanaeth RAISE y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol o Bobol Ddall [RNIB] Cymru ac Action on Hearing Loss Cymru wedi helpu pobol sydd â nam ar eu synhwyrau i hawlio £13.5 miliwn mewn budd-daliadau.

Cafwyd £1 miliwn gan Gronfa’r Loteri i ddechrau’r prosiect ond diwedd y mis, bydd yr arian hwnnw yn dod i ben ac mae digwyddiad yn Llandudno’r prynhawn yma i ddathlu’r gwaith y gwnaeth RAISE.

Dechreuodd y gwasanaeth yn dilyn newidiadau i’r system les oedd yn golygu bod pobol yn ei chael yn fwy anodd i hawlio budd-daliadau.

Roedd RAISE yn sicrhau bod chwe gweithiwr achos yn gweithio ledled Cymru i helpu pobol ddall neu fyddar i hawlio eu budd-dal gan y Llywodraeth.

Er bod y RNIB yn Llundain yn bwriadu parhau â’r gwasanaeth does dim sicrwydd eto os bydd yn parhau dan yr un strwythur.

“Angen help” ar bobol ddall

Yn ôl Faye Jones, 75, o’r Fali, Ynys Môn, a gafodd ei chofrestru’n ddall 10 mlynedd yn ôl, mae gwaith RAISE yn un hollbwysig.

“Dw i’n meddwl bod hwn yn bwysig iawn, tydi pobol ddim efo gwybodaeth amdano fo [ar sut i hawlio budd-daliadau],” meddai wrth golwg360.

Dywedodd ei bod wedi siarad â gŵr nad oedd wedi cael cyngor i hawlio arian, er ei fod wedi cael ei gofrestru’n ddall.

“Dyma fi’n deud, ‘ydach chi’n cael pres?’ ‘Na, mi ddeudodd y doctor ym Mangor bod o am gofrestru fi’n ddall dros flwyddyn yn ôl a tydw i ddim wedi clywed dim byd ers yr amser yna’ medda fo,

“Doedd ganddo fo ddim gwybodaeth o gwbl bod o’n medru cael pres tuag at fyw efo nam golwg. Bydda’ pobol fel yna byth yn rhoi eu troed ymlaen yn gyntaf [i gael help]. Mae angen help yn Gymraeg hefyd, yn enwedig i bobol y ffordd yma.

“Dw i’n meddwl bod pobol yn enwedig wrth fynd yn hŷn, mae gynnon nhw ofn gweld rhyw bapurau a hyn a’r llall, mae yna bob math o bethau yn eu herbyn nhw.”

Un gweithiwr achos o’r chwech sy’n siarad Cymraeg ar hyn o bryd ac yn ôl RNIB byddan nhw’n sicrhau bod y gwasanaeth hwnnw ddim yn lleihau, gan ddweud ei bod yn dilyn ei bolisi iaith.