Mae ffrae iaith yn corddi ar Ynys Môn ar ôl i gynghorydd sir feirniadu bwriad y cyngor i weithredu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg, fel sy’n digwydd yng Nghyngor Gwynedd.
Yn ôl y Cynghorydd Annibynnol, Shaun J Redmond, does gan Gyngor Môn ddim mandad i newid y polisi iaith am nad yw wedi “ceisio consensws” â phobol yr Ynys.
Mewn cyfarfod llawn o’r Cyngor ddydd Mawrth, bydd yn galw ar y Cabinet i gynnal refferendwm ar newid y polisi iaith.
Dywedodd hefyd y byddai symud i bolisi o amgylchedd gweithio yn Gymraeg yn golygu “baich ariannol” i’r Cyngor.
Mae Shaun Redmond yn galw am “gyflogi’r ymgeiswyr mwyaf cymwys ar gyfer pob swydd o fewn y Cyngor beth bynnag eu hiaith gyntaf neu ddewis iaith o Gymraeg neu Saesneg”.
Cefndir
Pythefnos yn ôl, daeth y newyddion bod Cyngor Ynys Môn am geisio efelychu polisi Cyngor Gwynedd a gweithio yn fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r polisi yn golygu bod staff yn cyfathrebu’n fewnol yn Gymraeg gyda’i gilydd ar fewnrwyd y Cyngor, bwletinau staff ac yn y blaen.
Ar y pryd, dywedodd Llinos Medi Huws, Arweinydd y Cyngor, fod y symud yn “rhan naturiol o gam nesaf o rediad y Cyngor”.
“Ymdrech i danseilio”
Mae ymgyrchwyr wedi ymateb drwy ddweud y byddan nhw’n ysgrifennu at bob cynghorydd ar yr Ynys yn galw arnyn nhw i wrthwynebu cynnig Shaun J Redmond.
“Rydyn ni’n galw ar i gynghorwyr wrthwynebu’n gryf y cynnig yma, sy’n ymdrech i danseilio camau bach y cyngor tuag at weithio drwy’r Gymraeg,” meddai Menna Machreth, o Gymdeithas yr Iaith.
“Byddwn ni’n ysgrifennu at bob cynghorydd i erfyn arnyn nhw i wneud safiad dros y Gymraeg ac yn erbyn agwedd adweithiol y cynghorydd yma.
“Dylai’r Cyngor fod yn symud yn syth at weinyddu drwy’r Gymraeg yn unig, wedi’r cwbl mae Gwynedd eisoes yn gwneud hyn. Dyna’r arfer gorau o ran polisïau iaith, rhywbeth a fydd yn golygu bod y cyngor yn beiriant i greu siaradwyr Cymraeg hyderus.
Y polisi “ddim yn faich ariannol”
Drwy bwysleisio bod pobol yn gallu dysgu Cymraeg, dywedodd Menna Machreth na fydd polisi newydd y Cyngor yn creu baich ariannol ychwanegol a dywed ei fod yn fwy cost effeithlon i weithredu yn Gymraeg.
“Mae’r Cyngor yn gorfod darparu gwasanaethau’n ddwyieithog, felly mae hyn yn golygu darparu dogfennau cyhoeddus yn y ddwy iaith, pa iaith bynnag a ddefnyddir ar gyfer y fersiwn gwreiddiol.
“Mae’n fwy cost effeithiol i gyflogi un person dwyieithog sy’n gallu paratoi dogfen yn ddwyieithog na chyflogi un person uniaith sydd ond yn gallu paratoi dogfen mewn un iaith ac yna cyflogi person dwyieithog i gyfieithu’r ddogfen honno.”
Cynnig y Cynghorydd Shaun Redmond yn llawn:
Dyma union eiriad y cynnig ar agenda’r cyfarfod llawn ddydd Mawrth:
“Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar i symud i bolisi o amgylchedd gweithio Cymraeg iaith
gyntaf a’r baichariannol cysylltiedig â’r gwahaniaethu sydd ynghlwm â hynny, rwy’n cynnig,
gan nad oes gan y Cyngorunrhyw fandad a gan nad ydynt wedi ceisio consensws yr etholaeth
i newid y polisi o fod yn Bolisi oDdwyieithrwydd, bod Aelodau yn :-
(a) Cadw’r amgylchedd gwaith a’r polisi dwyieithog tan y bydd mandad
a chonsensws yn cael ei gytuno drwy refferendwm ymysg yr etholaeth.
(b) Derbyn y polisi o gyflogi’r ymgeiswyr mwyaf cymwys ar gyfer pob swydd
o fewn y Cyngorbeth bynnag eu hiaith gyntaf neu ddewis iaith o Gymraeg neu Saesneg.
(c) Derbyn y polisi o gyflogi pobl ifanc a thrigolion eraill ym Môn
y mae eu hiaith gyntaf neuddewis iaith yn Gymraeg neu Saesneg.”