Fe allai Brexit caled arwain at “glirio pobol” o ucheldiroedd Cymru, yn ôl un o arweinwyr Plaid Cymru.

Roedd Liz Saville Roberts yn un o ddau wleidydd Cymreig a roddodd rybudd difrifol am effeithiau gadael yr Undeb Ewropeaidd ar raglen deledu Question Time neithiwr.

Yn ôl y gwleidydd Llafur, Owen Smith, roedd yna bryder mawr hefyd am ffatri geir Pen-y-bont ar Ogwr os na fydd cytundeb masnachu ffafriol gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Roedd y rhybudd cliria’ gan arweinydd Plaid Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin sydd hefyd yn Aelod Seneddol tros sedd wledig Meirion-Dwyfor.

‘Clirio pobol’

Yn ôl Liz Saville Roberts, roedd un rhan o dair o gynnyrch cig oen Cymru yn cael ei allforio, gan gynnwys y darnau gorau o gig – fe fyddai methu â chael cytundeb masnachu yn drychinebus, meddai.

“Dydw i ddim yn mynd i gefnogi beth fydd i bob pwrpas yn glirio pobol o’r ucheldiroedd,” meddai – cyfeiriad at y digwyddiadau yn yr Alban 200 mlynedd yn ôl pan gafodd yr ucheldiroedd eu gwagio o bobol.

Roedd yna gwestiwn hefyd am golli’r cronfeydd arbennig Ewropeaidd sydd wedi helpu economi Cymru – yn ôl y Ceidwadwr, Bernard Jenkin, fe fyddai Cronfa Ffyniant Brydeinig yn cael ei chreu.