Roedd 43% o’r trydan a gafodd ei ddefnyddio yng Nghymru y llynedd yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae hyn yn gynnydd o 32% ar y flwyddyn flaenorol, ac yn awgrymu bod Cymru gam yn nes at y targed o gynhyrchu 70% o’i thrydan trwy ddulliau adnewyddadwy.
Daw’r ystadegau o adroddiad Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2016 Llywodraeth Cymru sydd hefyd yn dangos bod:
- 23% yn fwy o brosiectau adnewyddadwy yng Nghymru (o gymharu â 2014)
- 97% o gynnydd wedi bod yn y gallu i gynhyrchu gwres adnewyddadwy
- 54% o gynnydd wedi bod yn y gallu i gynhyrchu ynni o wynt ar y tir (o gymharu â 2014)
“Trawsnewid ein system”
“Rydym wedi ymrwymo i gyflymu’r broses o drawsnewid ein system ynni yng Nghymru, yn enwedig drwy gynyddu’r defnydd o ynni adnewyddadwy,” meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni.
“Ein blaenoriaethau yw arbed mwy o ynni, lleihau ein dibyniaeth ar ynni sy’n cael ei gynhyrchu o danwyddau ffosil, a mynd ati i reoli’r newid i economi carbon isel.”