Mae’n bosib y bydd rhwng 10 ac 20 centimedr o eira yn disgyn dros ogledd Cymru yfory (dydd Gwener, Rhagfyr 8).

Mae’r Swyddfa Dywydd yn dweud ei bod yn “debygol” bydd tua 2.5cm o eira yn disgyn dros y rhan fwyaf o weddill Cymru hefyd.

Bydd rhybudd tywydd melyn mewn grym dros orllewin y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Cymru, rhwng bore ddydd Gwener a phrynhawn ddydd Sadwrn (Rhagfyr 9).

Mae’n debygol y bydd rhew yn ffurfio dros nos gan droi ffyrdd a phalmentydd yn llithrig.

Yn ôl rhai rhagolygon, mi fydd swm yr eira fydd yn cwympo o ardal i ardal yn amrywio cryn dipyn.