Mae tarw a fu ar ffo ger Cross Hands, wedi cael ei ddifa gan yr awdurdodau.

Roedd y tarw wedi ffoi o safle Cig Calon Cymru yn y pentref, ac wedi llwyddo i wneud ei ffordd tuag at Heol y Llew Du.

Fe dderbyniodd heddlu adroddiadau am y tarw am 10.30yb heddiw, ac fe gafodd yr heol ei gau gan swyddogion a oedd hefyd yn cynghori pobol leol i aros yn eu tai.

Yn ôl Heddlu Dyfed Powys roedd y tarw “wedi cynhyrfu cryn dipyn” ac yn peri “bygythiad i’r cyhoedd”.

Ar ôl derbyn cyngor gan arbenigwyr, gwnaeth swyddogion benderfynu difa’r anifail. Bu farw’r tarw am 11.35yb.

Bellach mae Heol y Llew Du wedi ailagor.