Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i benodi tîm o newyddiadurwyr ledled Cymru, gyda’r nod o “gryfhau’r craffu” ar gynghorau sir y wlad.

Fe fydd 11 newyddiadurwr yn rhan o’r tîm, gyda phob gohebydd yn canolbwyntio ar waith dau awdurdod lleol.

Er mai’r BBC sy’n bennaf gyfrifol am y cynllun – a’r BBC fydd yn ei ariannu – bydd dau sefydliad newyddion lleol, Trinity Mirror a Newsquest, hefyd yn cydweithio â’r Gorfforaeth.

Mae’r cynllun yn rhan o brosiect ehangach fydd yn arwain at gyflogi 144 gohebydd ledled gwledydd Prydain. Fe fydd cyfanswm o 58 sefydliad newyddion yn gysylltiedig â’r prosiect.

“Partneriaeth bwysig”

“Mae hon yn bartneriaeth bwysig fydd yn cryfhau’r sylw i awdurdodau lleol a sefydliadau cyhoeddus ar draws Cymru,” meddai Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru.

“Bydd hefyd yn cryfhau’r craffu ar sefydliadau democrataidd yn ogystal ag atebolrwydd y rheiny sydd yn gwneud penderfyniadau yn lleol i’w cymunedau.”