Chafodd Cymru erioed ddramodydd tebyg i Meic Povey, meddai cyd-actor a chyfarwyddwr.

Fe gwrddodd Cefin Roberts â Meic Povey tra’r oedd y ddau yn gweithio i Gwmni Theatr Cymru, ac wedi hynny fe fu’r ddau’n cydweithio ar gyfres deledu Dim ond Heddiw a chynyrchiadau gan gynnwys Cofiant y Cymro Olaf.

“Yn sicr mae o wedi gadael gwaddol na cheir mo’i thebyg, dw i’m yn meddwl,” meddai Cefin Roberts wrth golwg360. “O ran swmp a sylwedd, dw i ddim yn gwybod os oes yna ddramodydd Cymraeg sydd wedi bod mor gynhyrchiol â Meic.

“Roedd Meic yn un hawdd i wneud ffrindiau efo fo,” meddai wedyn. “Roedd o’n bersonoliaeth allblyg, ac yn ddigri iawn, ac yn gymeriad atyniadol iawn.

“Roedd o’n hawdd i chi syrthio mewn cariad â phersonoliaeth Meic. Roedd o yn bersonoliaeth fawr, roedd pawb yn gwirioni efo fo.”