Fe fydd Abertawe’n cael clywed heno (nos Iau) os yw’r cais i fod yn Ddinas Diwylliant 2021 wedi bod yn llwyddiannus ai peidio.

Mae’n cystadlu yn erbyn Coventry, Stoke, Sunderland a Paisley am grant gwerth £3m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a fydd yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno pecyn o weithgareddau diwylliannol gydol y flwyddyn.

Pe bai’n ennill, Abertawe fyddai’r drydedd Ddinas Diwylliant erioed, ar ôl Hull (2017) a Derry (2013).

Trïo ar Twitter

Yn ystod y dydd heddiw, fe fydd Abertawe’n cael ei thro i gael diwrnod wedi’i neilltuo ar gyfer y cais ar wefan gymdeithasol Twitter, lle mae gofyn i bobol drydar eu cefnogaeth i’r cais drwy ddefnyddio’r hashnod #Swansea.

Mae modd dangos cefnogaeth mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:

  • Dilyn Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan ar Twitter, Instagram a Facebook
  • Rhannu negeseuon o gefnogaeth
  • Postio lluniau a fideos o’ch hoff lefydd yn Abertawe
  • Rhannu straeon a ffeithiau am Abertawe a’r hyn sydd ganddi i’w gynnig

Ond gall pobol hefyd ddangos eu cefnogaeth yn Gymraeg gan ddefnyddio’r hashnodau #Abertawe a #DinasDiwylliant2021.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi gan Weinidog Diwylliant San Steffan, John Glen ar raglen The One Show yn Hull ar BBC1 nos Iau am 7 o’r gloch.

Y cais

Ymhlith yr enwogion sy’n cefnogi’r cais mae’r actorion Michael Sheen, Rob Brydon a Rhys Ifans, y cyfansoddwr Karl Jenkins, y cyfarwyddwr ffilm Kevin Allen a’r canwr Mal Pope.

Mae amcangyfrif y gallai ennill y cais ddenu miliynau o bunnoedd i’r ddinas, yn ogystal â hyd at 5,000 o swyddi.

Cyrhaeddodd Abertawe y rhestr fer yn 2017, ond mae Cyngor y Ddinas yn hyderus y gall fynd gam ymhellach y tro hwn ac ennill y gystadleuaeth.

Byddai cynlluniau Dinas Diwylliant 2021 yn mynd ochr yn ochr â’r cynlluniau i adfywio’r ddinas, sydd eisoes ar y gweill. Ymhlith y cynlluniau hynny mae creu sgwâr digidol, canolfan gelfyddydau newydd ac adfywio ardal y Kingsway, yn ogystal â pharth newydd i sefydlu busnesau yn ardal campws arloesi Prifysgol y Drindod Dewi Sant.

Digwyddiadau

Ymhlith y digwyddiadau sydd wedi’u cynllunio, ond sydd heb eu gadarnhau, mae gwaith cerddorol newydd gan Karl Jenkins, darn theatrig gan Michael Sheen a chynhyrchiad dawns a theatr gan Ganolfan y Mileniwm, y Theatr Genedlaethol, Candoco a’r Cwmni Dawns Cenedlaethol.

Y bwriad yw adrodd hanes Abertawe drwy gyfres o ddigwyddiadau awyr agored rhad ac am ddim sy’n uno trigolion a llefydd y ddinas, gan adrodd ei hanes drwy’r celfyddydau, perfformiadau, llenyddiaeth, hanes, digidol, dawns, chwaraeon, cerddoriaeth, drama a digwyddiadau i’r teulu.