Mae’r actor ac awdur Meic Povey wedi marw o ganser yn 67 oed.

Cafodd ei eni yn Nant Gwynant ger Beddgelert cyn symud i Gaerdydd, lle’r oedd yn cael ei ystyried yn un o brif ddramodwyr a sgriptwyr Cymru.

Yn Saesneg y gwnaeth ei enw’n bennaf fel actor, gan ymddangos mewn sawl cyfres boblogaidd megis A Mind To Kill, Minder a Doctor Who.

Ond yn y Gymraeg, fe luniodd nifer o ddramâu a chyfresi mawr S4C, gan gynnwys yr opera sebon Pobol y Cwm, Ryan a Ronnie a Glas Y Dorlan.

Cafodd e gydnabyddiaeth sawl gwaith gan BAFTA Cymru – yn 1991 am y sgript orau am ei ffilm Nel ac yn 2005 am y gyfres deledu Talcen Caled.

Yn fwy diweddar, fe luniodd e sgriptiau ar gyfer cyfresi Byw Celwydd a Teulu.

Roedd e hefyd yn enw adnabyddus ym myd y theatr, a’i ddrama Yn Debyg Iawn i Ti a Fi oedd cynhyrchiad cyntaf Theatr Genedlaethol Cymru yn 2004.

‘Ymhlith prif ddramodwyr Cymru’

Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C, Amanda Rees fod Meic Povey “ymhlith prif ddramodwyr Cymru yn ystod y degawdau diwethaf”.

“Does dim amheuaeth ei fod ymhlith prif ddramodwyr Cymru yn ystod y degawdau diwethaf, gyda’r gallu i ysgrifennu adloniant poblogaidd a hefyd deunydd heriol, yn delio gyda phynciau trafod perthnasol i bobol Cymru a gyda themâu oesol am gyflwr y ddynol ryw,” meddai.

“Does dim ond rhaid edrych ar ei gynnyrch teledu, o ddyddiau cynnar Pobol y Cwm i’w gyfres ddrama ddiweddaraf Byw Celwydd i ddeall cymaint fydd ei golled – roedd ganddo fe gymaint eto i’w gynnig.

“Wrth ryfeddu at ei ddawn i greu cymeriadau cofiadwy a gafaelgar, rhaid nodi cyfresi fel Talcen Caled a Teulu, ffilmiau fel Ryan a Ronnie, Reit tu ôl i ti, Nel a Sul y Blodau heb sôn am ei swmp anferth o waith fel dramodydd llwyfan ac fel actor teledu a llwyfan yn y Gymraeg a’r Saesneg.

“Gan fod ei wreiddiau’n ddwfn yn Eryri a’i fod hefyd wedi byw yng Nghaerdydd ers y 1970au, roedd ganddo allu i leisio profiadau pobl o bob rhan o’n gwlad… nid gormodiaeth yw dweud ein bod wedi colli cawr creadigol.”

Teyrngedau

Yr actor, Daniel Evans:

 

Simon Brooks:

Rhun ap Iorwerth:

 Theatr Genedlaethol Cymru:

Rydym yn drist iawn clywed heno am farwolaeth Meic Povey un o wir fawrion y theatr yng Nghymru a fu’n ysbrydoliaeth i genhedlaeth gyfan o awduron Cymraeg. Pleser fu cydweithio â Meic a mawr yw ein colled. 

— Theatr Genedlaethol (@TheatrGenCymru) December 5, 2017