Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion ar ôl i ddau gerddwr fod mewn gwrthdrawiad a char ym Mhontnewydd ger Cwmbrân.

Roedd dyn, 79 oed, a dynes, 78 oed, wedi gwrthdaro a char Hyundai Santa Fe lliw arian ar Stryd Commercial ym Mhontnewydd tua 5.26yp ddydd Llun, 4 Rhagfyr.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent ond bu farw’n ddiweddarach.

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi mai Alan James fu farw yn y digwyddiad ac mae ei deulu yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Cafodd y ddynes, sydd hefyd yn dod o Bontnewydd, ei chludo i’r ysbyty gyda man anafiadau.

Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â gwybodaeth mewn cysylltiad â’r digwyddiad ffonio 101 gan nodi’r cyfeirnod 411 4/12/2017.