Mae gŵr o Drefor wedi mentro i gopa’r Wyddfa fwy na hanner cant o weithiau eleni, a’r wythnos hon bydd yn cyflawni’r ‘Her 52’.

Ers dechrau Ionawr mae Elfed Williams, neu Elfed Gyrn Goch fel mae’n cael ei adnabod, wedi dringo’r Wyddfa o leiaf unwaith yr wythnos er mwyn casglu arian at Ambiwlans Awyr Cymru.

A dydd Gwener (Rhagfyr 8), mi fydd yn mentro i’r copa unwaith eto, cyn cynnal cyngerdd y noson honno yng Nghaernarfon yng nghwmni Rhys Meirion a Tudur Owen.

Ambiwlans Awyr

Hyd yn hyn mae Elfed Williams wedi codi mwy na £11,000 tuag at yr elusen er mwyn “diolch am eu gwaith,” a hynny wedi’i i’w fab, Tomos Huw, ddioddef anafiadau difrifol bedair blynedd yn ôl.

“Heb yr Ambiwlans Awyr, basa hi wedi bod yn ddrwg iawn arno fo,” meddai.

Mae’n esbonio fod y flwyddyn ddiwethaf wedi “gwibio heibio” a’i fod yn edrych ymlaen at daith ola’r her ddydd Gwener yng nghwmni Dilwyn Morgan a Iolo Williams.

Cyngerdd

“Efallai bydd yna eira ar y top ddydd Gwener, ond rydan ni’n oce efo hynna. Gwynt cryf ydy’r peth gwaethaf,” meddai wedyn.

Mae’n edrych ymlaen hefyd at gyflwyno’r arian o’i ddeiseb i’r Ambiwlans Awyr, ac mi fydd y gyngerdd ‘Her 52’ yn cael ei chynnal yn Galeri Caernarfon nos Wener, Rhagfyr 8, yng nghwmni Tudur Owen, Dilwyn Morgan, Rhys Meirion, Sioned Terry, Piantel a Chôr Meibion Caernarfon.