Y canolwr 29 oed sydd wedi cipio gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2017 BBC Cymru yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru neithiwr.

Cafodd Jonathan Davies ei wobrwyo mewn seremoni yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd neithiwr yn dilyn pleidlais gyhoeddus gyda’r seiclwr Geraint Thomas yn ail, a Natalie Powell (jiwdo) yn drydydd.

Mae rhai o uchafbwyntiau Jonathan Davies eleni yn cynnwys chwarae yng nghyfres y Llewod yn Seland Newydd, cystadlu yn y chwe gwlad ynghyd ag ennill y PRO12 gyda’i glwb y Sgarlets.

Cafodd Ben Woodburn, 17 oed, ei enwi yn athletwr ifanc y flwyddyn am ei berfformiadau gyda thîm pêl-droed Cymru a chlwb pêl-droed Lerpwl.

Gwobrau eraill

Tîm y Flwyddyn: Devils Caerdydd

Hyfforddwr y Flwyddyn: Christian Malcolm (Athletau, Casnewydd)

Gwobr Cyflawniad Oes: Alan Curtis (Pêl-droed, Abertawe)

Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig: David Watkins

Athletwraig Ifanc y Flwyddyn: Catrin Jones (Codi pwysau, Ynys Môn)

Athletwr Ifanc y Flwyddyn: Ben Woodburn (Pêl-droed, Clwb Pêl-droed Lerpwl)

Gwirfoddolwr y Flwyddyn: Fateha Ahmed (Nofio, Caerdydd)

Person Ifanc Ysbrydoledig: Hannah Nolan (Aml-chwaraeon, Llandudno)

Sefydliad y Flwyddyn: Chwaraeon Anabledd Cymru

Profiad Chwaraeon y Flwyddyn: Us Girls

Arwr Tawel BBC Cymru: Mike Blake (Trefnwr Rhedeg, Caernarfon)

Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn: Mark James (Bocsio, Casnewydd)

 

“Does dim dwywaith y bydd eu llwyddiant yn annog pobol eraill i fynd ati i helpu yn eu cymunedau ac i gyfrannu tuag at lwyddiant chwaraeon yng Nghymru ar gyfer y dyfodol,” meddai Lawrence Conway neithiwr, Cadeirydd Chwaraeon Cymru.