Mae Heddlu Dyfed Powys yn cynnal ymchwiliad ac yn apelio am wybodaeth, yn dilyn achos honedig o drais yn Sir Benfro dros y penwythnos.

Mae dynes yn honni iddi gael ei threisio gan ddau ddyn yn Stryd y Bont, Hwlffordd, ar ddydd Sul (Rhagfyr 3) am 1.30 y bore.

Bellach mae dau lanc 17  oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o dreisio, ac maen nhw’n parhau i fod yn y ddalfa.

Dylai unrhyw un oedd yn ardal Stryd y Bont a Riverside rhwng 1 a 1.30 y bore, gysylltu â’r heddlu trwy ffonio 101, neu gysylltu â Thaclo’r Taclau ar 0800 555111.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd ddynes yng nghwmni dau ddyn yn ystod yr adeg yma.