Mae angen “cynnal y momentwm” a pharhau i godi ymwybyddiaeth o roi organau yng Nghymru ddwy flynedd ers cyflwyno’r ddeddf ‘optio allan’.

Ers 1 Rhagfyr 2015 mae Cymru wedi gweithredu deddf ‘cydsyniad tybiedig’ o roi organau – sy’n golygu os nad yw pobol yn cofrestru i ‘optio allan’ o’r system maen nhw’n cael eu hystyried i fod heb wrthwynebiad i roi organau.

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i weithredu’r ddeddf ac yn ôl gwerthusiad diweddar mae 64.5% o deuluoedd yng Nghymru yn rhoi caniatâd i roi organau bellach o gymharu â 44.4% yn 2014.

Ymgyrch ymwybyddiaeth

Er hyn, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog pobol i drafod eu dewisiadau gydag ymgyrch hysbysebu wedi’i lansio ar y teledu.

Yn ôl y gwerthusiad roedd 21 o achosion yng Nghymru yn 2016-2017 lle’r aeth y teuluoedd yn groes i benderfyniad eu perthynas gyda rhai yn gwrthod cefnogi’r system o ‘gydsyniad tybiedig.’

Mae’r gwerthusiad yn nodi y gallai hyn fod yn gymaint â 65 o drawsblaniadau ychwanegol am fod pob rhoddwr yn gallu rhoi tua 3 organ ar gyfartaledd.

‘Parhau i fonitro’

“Mae’n bwysig cofio ei bod yn rhy gynnar i wybod beth fydd effaith wirioneddol y newid hwn, ond rwy’n hyderus ein bod wedi dechrau creu diwylliant lle caiff rhoi organau ei drafod mewn modd agored,” meddai Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd.

“Er bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yn cynyddu, mae’n bwysig dros ben ein bod yn cadw momentwm ac yn parhau i fonitro beth yw effaith y Ddeddf dros y cyfnod hir.”