Mae cynnig wedi’i gyflwyno i’r Cynulliad gan Aelodau Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas ac Adam Price yn mynegi eu siom yn dilyn y penderfyniad i gau canghennau banc NatWest yng Nghymru.

Mae’r cynnig yn galw ar y banc i ailystyried y penderfyniad i gau 20 o ganghennau, ac ar i Lywodraeth Cymru ystyried agor Banc Pobol Cymru.

Mae wyth o’r canghennau yn etholaeth Simon Thomas yn y Canolbarth a’r Gorllewin, ac fe ddywedodd: “Mae ardaloedd gwledig yn cael eu hamddifadu o’u gwasanaeth bancio.

“Mae banciau yn troi eu cefnau ar gwsmeriaid i geisio mwy a mwy o elw. Fe ddylid gosod dyletswydd ar y banciau hyn sy’n darparu gwasanaeth hanfodol i roi anghenion y cwsmeriaid cyn eu pocedi eu hunain.

“Dylai’r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd fod yn edrych ar sut y gall sefydliadau ariannol eraill megis Cyllid Cymru ac undebau credyd gau’r bwlch a adawyd gan y banciau mawr.

“Bydd ffyrdd eraill o amddiffyn gwasanaethau banciau fel datblygu gwasanaethau a ddarperir gan Swyddfa’r Post yn cael eu rhwystro gan raglen un llywodraeth ar ôl y llall yn San Steffan, waeth beth fo’u lliw gwleidyddol, o gau gwasanaethau.”

Galw am drafodaeth

Mae Adam Price, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, wedi galw am drafodaeth yn y Senedd ddydd Mercher.

Mae’r penderfyniad yn effeithio ar ddwy gangen yn ei etholaeth, sef Rhydaman a Llandeilo.

“Bydd fy nghydweithiwr yn yr etholaeth Jonathan Edwards a minnau yn gweithio gyda’r gymuned leol i wneud ein gorau i geisio cadw canghennau’r Natwest yn Rhydaman  a Llandeilo.

“Wrth i wasanaethau bancio bellhau fwyfwy, gall buddsoddiad a benthyciadau gan fusnesau ddechrau dirywio. Mae arnom angen model newydd ar frys, ar batrwm y rhai yn yr Almaen a’r Unol Daleithiau,  sydd wedi eu sefydlu’n unswydd i gefnogi cymunedau, busnesau a defnyddwyr lleol.

“Credwn yn gryf y dylai Llywodraeth Cymru ystyried yr adroddiad diweddar ar ddyfodol banc cyhoeddus. Byddai creu banc i bobl Cymru yn gam cadarnhaol, gan y byddai yn nwylo’r cyhoedd ac wedi ei wreiddio yn ein cymunedau.”

‘Effaith negyddol’

Mae adroddiad gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru’n tynnu sylw at dystiolaeth y gallai “cau canghennau banciau gael effaith negyddol ar unigolion a busnesau yng Nghymru”, ac mae’n dweud bod “angen mwy o ymchwil penodol i ganfod pa effaith mae cau canghennau banciau yn ei chael ar unigolion a chymunedau”.

Dywed yr adroddiad na fyddai agor banciau cymunedol newydd “yn gallu gwneud yn iawn am y canghennau a gaewyd yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf”.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y problemau sy’n cael eu hachosi drwy fenthyca i fusnesau bach a chanolig, a bod banciau’n bell yn ddaearyddol a gweithredol oddi wrth fusnesau bach.

Mae ymchwil yn dangos bod banciau Cymru dair gwaith yn fwy tebygol o gael eu cau na banciau cyfatebol yn Llundain neu dde-ddwyrain Lloegr.

Roedd pump allan o’r 10 ardal lle cafodd 600 o ganghennau eu cau yng ngwledydd Prydain yn 2015 yng Nghymru – Powys, Sir Ddinbych, Gwynedd, Conwy a Sir Gaerfyrddin.