Fe fydd Cyngor Caerdydd yn cynnal ymgynghoriad ar gynlluniau newydd i rannu’r brifddinas yn bum ardal ddinesig newydd yn seiliedig ar Efrog Newydd.

Ymhlith y cynlluniau mae orielau celf a sawl stadiwm chwaraeon newydd, a dymchwel Arena Motorpoint i greu lle ar gyfer parc arloesi a pharc gwyddoniaeth.

Bydd yr ymgynghoriad yn para tri mis.

Y parthau sydd wedi’u cynnig yw Bae Caerdydd, Canol y Ddinas, Dwyrain, Gorllewin a Gogledd.

Bae Caerdydd

Parth hamdden fyddai Bae Caerdydd, a’r bwriad yw sefydlu oriel gelf, amgueddfa Stori Caerdydd a dymchwel Arena Motorpoint.

Mae’r Gyfnewidfa Lo eisoes wedi cael ei thrawsnewid, a’r bwriad fyddai cyflwyno rhagor o welliannau i Sgwâr Mount Stuart.

Gallai system cebl uchel ar gyfer trafnidiaeth gysylltu Bae Caerdydd â chanol y ddinas.

Canol y Ddinas

Mae’r gwaith o adnewyddu canol dinas Caerdydd eisoes ar y gweill, yn dilyn datblygu’r Sgwâr Canolog a fydd yn gartref i BBC Cymru a lle bydd gorsaf fysus newydd.

Mae disgwyl hefyd y bydd rhagor o waith yn cael ei wneud i wella’r rheilffyrdd i mewn ac allan o ganol y ddinas.

Bydd mwy o swyddfeydd a mannau cyhoeddus ar gael hefyd fel rhan o’r datblygiadau.

Dwyrain Caerdydd

Parth diwydiannol fyddai Dwyrain Caerdydd.

Mae cynlluniau ar y gweill eisoes i sefydlu rheilffordd newydd ac i ddatblygu ffordd gyswllt i’r dwyrain.

Ymhlith y cynlluniau newydd mae sefydlu parc busnes newydd.

Gorllewin Caerdydd

Yng Ngorllewin Caerdydd y mae nifer o dimau chwaraeon y brifddinas, gan gynnwys Clwb Pêl-droed Caerdydd, rhanbarth rygbi’r Gleision a Chlwb Criced Morgannwg.

Fe allai’r Gleision gael cartref newydd yn y parth hwn.

Mae disgwyl hefyd y byddai cyfleusterau Stadiwm y Swalec SSE, cartref Morgannwg a Chwaraeon Cymru yng Ngerddi Sophia hefyd yn cael eu huwchraddio.

Gogledd Caerdydd

Byddai parc arloesi newydd yn cwmpasu safleoedd Parc Maendy ac Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Byddai parc gwyddoniaeth newydd yn cael ei sefydlu yn ardal Coryton oddi ar yr M4.