Mae ffigurau newydd ar gyfer 2016-17 yn dangos bod bron i 12,000 o oedolion yng Nghymru mewn perygl o gael eu camdrin neu eu hesgeuluso.

Roedd dros 9,000 ohonyn nhw’n oedolion dros 65 oed, ac ychydig dros eu hanner nhw’n byw yn eu cartrefi eu hunain.

Mae Age Cymru wedi ymateb i’r ffigurau gan alw am ragor o wasanaethau cymorth, wrth i Lywodraeth Cymru ddweud na fyddan nhw’n “goddef y fath ymddygiad mewn unrhyw ffurf”.

Yn ôl ffigurau’r llywodraeth, arweiniodd 717 o’r 11,761 o achosion o gamdrin neu esgeuluso at 717 o ymchwiliadau troseddol gan yr heddlu a 2,050 o ymchwiliadau lle nad oedd trosedd wedi’i chyflawni.

Yn eu plith, roedd traean o’r achosion yn ymwneud ag oedolion 18-64 oed yn cynnwys camdrin seicolegol neu emosiynol, ac 891 o achosion o gamdrin rhywiol lle’r oedd 279 o achosion yn erbyn pobol dros 65 oed.

 

Yn Rhondda Cynon Taf yr oedd y nifer fwyaf o achosion, gyda thros 2,000 o oedolion mewn perygl – dros ddwywaith nifer yr achosion yn Abertawe, sy’n ail ar y rhestr o’r llefydd lle mae pobol yn wynebu’r perygl mwyaf.

Roedd dros 500 o bobol yn Rhondda Cynon Taf wedi cofnodi’r un math o berygl ddwywaith dros gyfnod o 12 mis.

Yn Rhondda Cynon Taf hefyd y mae’r gyfradd uchaf o oedolion mewn perygl ar gyfer pob 10,000 o bobol.

Cafodd y ffigurau eu casglu o blith yr heddlu, darparwyr gofal, cynghorau, byrddau iechyd ac unigolion.

‘Pryder eithriadol’

Wrth ymateb i’r ffigurau, dywedodd llefarydd ar ran Age Cymru eu bod yn achosi “pryder eithriadol”.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod camau newydd wedi’u cyflwyno’r llynedd i fynd i’r afael â’r sefyllfa.