Ar Sadwrn y Siopau Bach, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i fusnesau bach a chanolig.
Bwriad y diwrnod yw denu mwy o bobol i siopa yn eu siopau lleol.
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar yr economi, Russell George ei fod yn dymuno gweld Llywodraeth Cymru’n gweithredu ar eu haddewid i leihau trethi busnes, gwella mynediad i gytundebau caffael ac adfywio’r stryd fawr drwy gyflwyno mwy o lefydd parcio rhad ac am ddim.
Cafodd y cynnig ei gyflwyno gan Russell George fel cynllun chwe phwynt, gan alw am:
- ddiddymu trethi busnes ar gyfer busnesau bach
- sicrhau mynediad gwell i gytundebau caffael ar gyfer busnesau bach
- cyflymu’r broses o gyflwyno band llydan ym mhob rhan o Gymru
- Ariannu Banc Datblygu Cymru er mwyn sicrhau cefnogaeth ariannol i fusnesau bach
- cyflwyno mwy o lefydd parcio rhad ac am ddim ar gyfer siopwyr
- Sicrhau hyfforddiant i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar y gweithlu
‘Cyfle gwych’
Dywedodd Russell George: “Mae Sadwrn y Siopau Bach yn gyfle gwych i hybu’r rôl allweddol sydd gan fusnesau bach i’w chwarae, a dyna pam ein bod ni’n galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i gymryd camau i’w cefnogi nhw.
“Rydyn ni eisiau gweld trethi busnes yn cael eu diddymu ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru, a gweithredu ystyrlon gan Ysgrifennydd y Cabinet i helpu mwy ohonyn nhw i gael mynediad i gytundebau caffael y sector cyhoeddus.
“Mae ein cynllun chwe phwynt hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddyblu ei hymdrechion i adfywio stryd fawr Cymru drwy gefnogi awdurdodau lleol sy’n cynyddu’r ddarpariaeth o safbwynt llefydd parcio rhad ac am ddim.
“Dylai Sadwrn y Siopau Bach fod yn ddathliad, ond mae angen hefyd i ni feddwl am yr hinsawdd ar hyn o bryd i fusnesau bach yng Nghymru a chanolbwyntio ar y materion sy’n eu hatal nhw rhag cyrraedd eu potensial llawn.
“Gobeithio y bydd Aelodau’r Cynulliad o bob plaid yn cefnogi’r mesurau hyn.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru chwarae ei rhan, yn amlwg, ond gallwn ni i gyd chwarae ein rhan a chefnogi busnesau bach drwy siopa’n lleol y penwythnos hwn.”
‘Dileu diweithdra dros nos’
Ychwanegodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: “Fel plaid y busnesau bach, mae’r Ceidwadwyr Cymreig ers tro yn tynnu sylw at y rhan allweddol maen nhw’n ei chwarae yn economi Cymru a dyna pam ein bod ni’n parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Lafur Cymru i gymryd camau i’w cefnogi nhw’n well.
“Mae 99% o holl fusnesau Cymru’n fusnesau bach a chanolig a phe bai pob un yn cyflogi un gweithiwr ychwanegol, fe ellid dileu diweithdra yng Nghymru dros nos.”