Mae cwmni Horizon, sy’n gyfrifol am adeiladu atomfa niwclear bosib ar Ynys Môn, wedi rhoi rhodd ariannol i un o ysgolion cynradd yr Ynys fedru prynu cwt ieir newydd.

 

Mae Ysgol y Tywyn wedi cael arian dan gynllun Rhoddion Elusennol, Cymorth Cymunedol a Nawdd Horizon.

 

Ond nid yw Horizon am ddweud faint roddwyd i’r ysgol am nad ydyn nhw “fel arfer yn datgelu maint rhoddion elusennol i’r mudiadau hynny sydd yn gwneud cais am gefnogaeth ariannol.

 

“Fodd bynnag, fel sawl cwmni arall sydd yn derbyn ceisiadau am gymorth, rydym yn awyddus i wneud gwahaniaeth positif mewn cymunedau cyfagos drwy’n cynllun i’r mudiadau hynny sydd yn llwyddiannus yn eu cais,” meddai llefarydd.

 

Ysgol yn falch o’r arian

 

Mae Ysgol y Tywyn wedi datblygu gardd i dyfu llysiau a ffrwythau er mwyn cynnal mwy o ddosbarthiadau yn yr awyr agored. Mae’r ardd yn cynnwys cwt ieir sydd â phedair iâr

 

“Rydyn ni’n hynod o falch ein bod wedi cael arian gan Horizon oherwydd rydyn ni wedi gallu prynu cartref mwy o faint i’n hieir, gan roi mwy o le iddyn nhw symud,” meddai Emyr Williams, pennaeth yr ysgol.

 

“Mae’r disgyblion wrth eu bodd yn gofalu amdanyn nhw ac yn casglu’r wyau, felly mae’n brosiect poblogaidd mae’r ysgol gyfan yn cymryd rhan ynddo.

 

“Yn ogystal ag elwa ar fod allan yn yr awyr agored, maen nhw’n dysgu sgiliau newydd ac yn deall yr hyn mae’n ei olygu i ofalu am yr ieir a’r ardd yn ehangach.”