Mae arweinydd UKIP Cymru wedi lambastio gwasanaeth iechyd y gogledd.

Wrth drafod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y Cynulliad yr wythnos hon, dywedodd Neil Hamilton bod y gwasanaeth y mae pobol Blaenau Ffestiniog yn ei dderbyn yn eithriadol o wael.

Mae Bwrdd Iechyd y Gogledd yn parhau dan fesurau arbennig ers mis Mehefin 2015.

Problemau Blaenau

“Does gan Blaenau Ffestiniog ddim gwasanaeth iechyd cenedlaethol, mae ganddyn nhw wasanaeth iechyd dychmygol,” meddai Neil Hamilton.

“Cafodd eu gwasanaeth 24 awr ei gau sawl blwyddyn yn ôl a’i israddio i ganolfan iechyd 10 awr, ac mae wedi cael ei israddio eto ers hynny.

“Ers 2013, felly, rydym ni wedi gweld yr ysbyty yn cau [ym Mlaenau Ffestiniog], llai o welyau, y gwasanaeth pelydr-x yn cau, yr uned mân anafiadau yn cau, y clinigau teledermatoleg yn cau.

“Mae dwy feddygfa wledig wedi cau, ac roedd y feddygfa ym Mlaenau Ffestiniog i fod â phedwar meddyg llawn amser ond dim ond un meddyg sydd ganddyn nhw ac amrywiaeth o feddyg locwm.

“Yn y 14 mis ers i fi sôn am hyn i’r Prif Weinidog, does dim byd o gwbl wedi newid er gwaethaf y mesurau arbennig ac mae angen gwneud rhywbeth.”

Angen mwy o staff

Yn y ddadl yn y Cynulliad, cafwyd cytundeb y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried unrhyw fesurau pellach ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dilyn ymchwiliad yr Arolygiaeth Iechyd a Swyddfa Archwilio Cymru.

Roedd y Llywodraeth hefyd yn dweud y bydd “angen ehangu’r gweithlu’n sylweddol” er mwyn datrys y problemau, “sy’n golygu y bydd angen cynyddu lefelau hyfforddiant nyrsio a meddygol”.

“Mae rhai ardaloedd allweddol wedi gwella dan fesurau arbennig, ond rydym wedi datgan yn glir i’r Bwrdd Iechyd bod y sefyllfa cyllideb gyfredol, a pherfformiadau amseroedd disgwyl yn annerbyniol,” meddai llefarydd mewn datganiad pellach.

“Rydym yn canolbwyntio ar weithredu, buddsoddi a rhoi mesurau mewn lle i sicrhau bod y Bwrdd yn mynd i’r afael â gwelliannau angenrheidiol er lles pobl Gogledd Cymru.”