Mae cwsmeriaid cangen banc NatWest yng Ngheredigion a fydd yn cau’r flwyddyn nesaf, wedi bod yn sôn wrth golwg360 am eu “siom” o glywed y newyddion.

Heddiw fe gyhoeddodd  rhiant-gwmni Natwest,  Banc Brenhinol yr Alban (RBS), eu bod yn bwriadu cau 259 o ganghennau ledled gwledydd Prydain.

Daw’r penderfyniad i gau’r canghennau yn rhannol oherwydd bod “mwyfwy o gwsmeriaid yn dewis bancio ar-lein neu’n symudol”, yn ôl llefarydd ar ran RBS.

Ond mae nifer o gwsmeriaid cangen NatWest Llanbedr Pont Steffan yn gwrthwynebu’r cau, gan ddweud bod llai o bobol cefn gwlad a phobol hŷn yn bancio ar y We.

“Siom ofnadwy”

“Un o’r rhesymau dw i’n defnyddio banc yw oherwydd dw i ddim am ddefnyddio bancio ar-lein. Dw i’n meddwl ei fod yn drueni mawr,” meddai Gwenda Davies o Lanbedr, sydd bellach wedi ymddeol, ac wedi defnyddio’r banc am dros hanner canrif.

“Mae’r ffaith bod gyda chi banc, a’ch bod yn medru mynd mewn iddo fe i ofyn , cael cyngor a chael gwasanaeth personol – dydy hynna ddim yn mynd i ddigwydd mwyach ac mae’n siom ofnadwy iawn,” ychwanegodd wrth golwg360.

Mae Mair Davies, 65, sydd yn helpu siop elusen Tenovus, yn credu bod y drefn bresennol yn “llawer mwy cyfleus” ac yn dweud nad yw yn bancio ar y We.

Ac mae Evan Brian Beynon, 64, sy’n rhedeg Tafarn Castle Green yn Llanbedr, yn dweud nad oes ganddo “dim cliw” ynghylch bancio ar y We a’i bod yn “hen bryd dychwelyd i hen ddyddiau’r swyddfa bost”.

Teithio

Yn ôl cwsmeriaid y banc yn Llanbedr Pont Steffan bydd yn rhaid iddyn nhw deithio i Aberystwyth neu Gaerfyrddin er mwyn cyrraedd y gangen agosaf.

Er bod Colin Darhill, 46, o Felin-fach, yn bancio ar y We, mae ei fusnes yn rhannol ddibynnol ar dynnu arian parod o’i fanc lleol.

“Rydym ni’n gwneud eithaf lot o fancio busnes yma, a thipyn mewn arian parod,” meddai wrth golwg360. “Felly bydd hi’n anoddach bancio’r arian parod. Bydd rhaid i ni fynd i Aberystwyth yn awr, neu le bynnag mae’r lle agosaf.”

Mae Anne Julian Dixon, 78, yn dweud bod ei changen agosaf, NatWest Tregaron, eisoes wedi cau ac felly mi fydd yn rhaid iddi deithio hyd yn oed yn bellach o Fehefin ymlaen.

“Dw i wedi bancio â’r bobol yma ers 1960, a dwi bob tro wedi credu eu bod yn fanc da,” meddai wrth golwg360. “Ond, nawr dw i wir yn ystyried cymryd fy musnes i ffwrdd.”