Mae un o awduron amlyca’ Ceredigion wedi mynegi ei ofid dros yr iaith Gymraeg a chefn gwlad.

Ac mae trydar a thecstio “digymeriad” wedi disodli’r arfer o sgwrsio ymysg pobol, yn ôl Lyn Ebenezer.

Daw sylwadau’r awdur wrth iddo gyhoeddi cyfrol newydd o’r enw Y Meini Llafar.

“Fel sy’n gyffredin i’n hardaloedd gwledig, gadael wna’r ifanc cynhenid i chwilio am waith,” meddai Lyn Ebenezer.

“Mewnfudwyr ddaw yn eu lle, y mwyafrif ohonynt yn henoed. Rhwng allfudiad yr ifanc a mewnfudiad estroniaid, marw mae’r bywyd cymdeithasol Cymraeg.

“Mae’r mannau lle bu pobol yn crynhoi i ddal pen rheswm a thynnu coes bellach yn wag. Ildiodd sgwrsio pen ffordd ei le i drydar a thecstio digymeriad. Collwyd yr arferiad o sgwrsio.”

Bydd Y Meini Llafar yn cael ei lansio am saith o’r gloch heno yn neuadd Pantyfedwen ym mhentref Pontrhydfendigaid yng nghwmni Lyn Ebenezer a Selwyn Jones.