Mae Banc Brenhinol yr Alban (RBS) wedi cadarnhau wrth golwg360 bod canghennau yng Nghymru ymysg y 259 fydd yn cael eu cau ledled Prydain – 20 yw’r ffigwr tebygol.

Mae’n debyg y bydd tua 70 o ganghennau yng Nghymru a de orllewin Lloegr yn cau, ond dyw’r manylion a’r lleoliadau ddim wedi’u datgelu hyd yma, er fod pryder eisoes am ganghennau yng Ngheredigion.

Mae’r safleoedd fydd yn cau yn cynnwys canghennau yn enw’r RBS ei hun a rhai’r Nat West, sy’n rhan o’r yn cwmni.

Fe fydd effaith ar 1,000 o swyddi gyda 680 o bobol ledled Prydain yn colli eu swyddi.

NatWest a Cheredigion

Daw’r penderfyniad i gau’r canghennau gan fod “mwyfwy o gwsmeriaid yn dewis bancio ar-lein neu’n symudol”, yn ôl llefarydd ar ran RBS.

Mae disgwyl y bydd 197 o ganghennau’r Nat West – gan gynnwys, mae’n debyg, canghennau Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan.

Mae Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake, wedi galw’r penderfyniad yn “ergyd fawr”, ac wedi gofyn i Brif Weithredwr NatWest am gyfarfod i drafod y mater.

Mae banciau eraill eisoes wedi cau eu canghennau yng Ngheredigion, a bellach mae rhai pentrefi – mae Llandysul a Thregaron yn eu mysg – wedi colli pob un o’u banciau.

 “Haeddu gwell”

“Mae’r banciau masnachol hyn yn cefnu fwyfwy ar gymunedau gwledig ar draws Ceredigion,” meddai Ben Lake.

“Llai na degawd ar ôl i drethdalwyr achub eu crwyn pan oedd yr argyfwng ariannol ar ei gwaethaf, maent nawr yn bygwth tanseilio sylfaen ariannol yr economi leol gyfan.

“Rhaid i ni sicrhau bod y model bancio a fydd gennym yn y dyfodol wedi’i wreiddio yn ein cymunedau – ry’n ni’n haeddu gwell na hyn.”